Cynulliad Paramaethu Cymru a Gweithwyr y Tir

Bwydo’n hunain yng Nghymru

Gorffenhaf 26-28fed cymyned Brith dir Mawr, Sir Benfro

Brithdir Mawr skyMae Cynulliad Paramaethu Cymru yn Sir Benfro eleni, yn eco-gymuned Brithdir Mawr, Trefdraeth. Byddwn yn canolbwyntio ar atebion cadarnhaol gan edrych ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a llesiant yn y cyfnod yma o ansicrwydd gwleidyddol a hinsoddol.

Uchafbwyntiau:
• Rhaglen ar y cyd eleni gyda Chynghrair Gweithwyr y Tir a fydd yn dod a digonedd o weithdai ymarferol wedi’u seilio ar y tir a rhai ymweliadau lleol ar y dydd Sul
• Cyfleoedd gwych i gymdeithasu- o gwmpas y tân gwersyll bob nos; nosweithiau ffilm yn lolfa’r gymuned gyda llosgydd coed; ceilidh a DJ tu hwnt i’r grid yn y cynlluniau ar gyfer nos Sadwrn
• Cynnyrch ar werth gan gyfranogwyr yn ogystal â bwrdd cyfnewid
• Safle teulu-gyfeillgar, heb drafnidiaeth ar fferm gymunedol weithiol gydag anifeiliaid fferm ac adeiladau rhestredig gradd 2
• Taith gerdded ugain munud i Drefdraeth (bysiau, caffis,, traethau a siopau)
• Gweithdai, trafodaethau ford gron a chynllunio strategol

Dewch i ddysgu, i ymlacio ac i rannu:
Eisiau cyfrannu at drafodaethau ford gron wedi’u ffocysu? Neu redeg gweithdy? Cysylltwch â ni – mae gennym ychydig o slotiau agored ar y rhaglen.