Croeso i ddechreuad IPC-UK!

Rydym yn hynod falch bod y Gymdeithas Paramaethu yn cynnal y 12fed Cynulliad Rhyngwladol Paramaethu ym Mhrydain. www.ipcuk.events

Bu’n llwybr hir i gael 1,000 o bobl o draws y byd, sy’n frwd am baramaethu, i Lundain. Menter y mudiad paramaethu rhyngwladol yn ei gyfanrwydd fydd IPC-UK. Byddwn yn defnyddio digwyddiadau i greu perthynas agosach fyth gyda’r nifer o sefydliadau a rhwydweithiau eraill sy’n gweithio er budd gofal y byd (Earth Care), gofal pobl (People Care) a rhannu’n deg (Fair Shares).

Yn ddyddiol mae manylion pellach yn cael eu hychwanegu gan y Tîm Cydlynu a’r 12 Gweithgor. Dyma grynodeb o’r hyn fydd yn digwydd.

O Awst 2015: Digwyddiadau Ymylol

Gweithdai, darlithiau, ymweliadau a theithiau, profiadau lleol, dosbarthiadau meistr. Bydd rhai o ddylunwyr ac arweinwyr prosiect paramaethu mwyaf blaengar y byd yn cyfrannu. Gadewch i ni fanteisio a dysgu cymaint â phosib ganddynt. Rydym yn edrych am unigolion a grwpiau i helpu i drefnu gweithgareddau ymylol IPC-UK. Yn fuan byddwn yn cyhoeddi arweinlyfr yn amlinellu sut y medrwch chi gynnig digwyddiad ymylol swyddogol IPC-UK.

Medi 8fed – 9fed 2015: Cynhadledd IPC-UK, Euston, Llundain

Cynhadledd deuddydd yn dod ynghyd â pharamaethu, cynaliadwyaeth, trawsnewid, hydwythedd a rhwydweithiau adfywio. Cyflwyniadau, gweithdai, stondinau, arddangosiadau, papurau academaidd a phosteri. Anhygoel!

Medi 11eg - 16eg 2015: Cydgyfeiriant IPC-UK, Parc Gilwell, Essex

Cyfarfod pum niwrnod ar gyfer graddedigion Cyrsiau Dylunio. Cannoedd o weithdai, gweithgareddau, trafodaeth agored, trefnu rhyngwladol, strategaeth, rhwydweithio a dawnsio. Cynhelir yn yr un lle a’r Cydgyfeiriant Prydeinig Medi 2014.

Medi 16eg – 19eg ymlaen: Digwyddiadau ymylol yn parhau

Teithiau, gwirfoddoli, arosiadau sy’n rhoi profiad o rwydweithiau lleol, cyrsiau arbenigol. Eto trefnwyd gennych chi gyda’n cefnogaeth ni.

Rydym yn disgwyl i’r digwyddiad fod yn un poblogaidd, ac rydym am annog cymaint o gefnogwyr a phosib i gymryd rhan er mwyn sicrhau bod hwn yn IPC gwych.

Plîs cliciwch yma i ddynodi eich diddordeb. Pan fyddwn yn agor ar gyfer cofrestru o fis Medi 2014 ymlaen bydd y rhai sydd wedi mynegi diddordeb eisoes yn cael blaenoriaeth o ran archebu lle.

Eisiau helpu? Edrychwch ar ein Gweithgorau i weld a fedrwch wirfoddoli.

Os oes gennych sgiliau arbennig rhowch wybod i ni amdanynt. E-bostiwch ni os ydych am drefnu gweithgaredd IPC-UK ymylol, ac fe ddanfonwn arweinlyfr atoch cyn gynted ag y bo modd.

Codi arian a nawdd

Rydym yn edrych am grantiau, rhoddion a noddwyr er mwyn gwneud y digwyddiad mor fforddiadwy â phosib i bobl rhwydwaith paramaethu ledled y byd. Rydym hefyd am godi arian er mwyn darparu ysgoloriaethau. Bydd 50% o unrhyw arian dros ben a godir yn sgil digwyddiadau yn cael ei roi i IPC-India, a gynhelir yn Hyderabad yn Rhagfyr 2017. Gadewch i ni fod yn greadigol a chodi peth arian. Os hoffech roi cyfraniad, cysylltwch â ni neu defnyddiwch y ffurflen rhoi ar lein.

Gwefannau Cymdeithasol

Er mwyn codi ymwybyddiaeth defnyddiwch #IPCUK ar gyfer trydar, ac ymunwch â Gweplyfr IPC convergence a digwyddiadau’r gynhadledd.